Chwiliad – Sharon Larkin (Welsh)

Chwiliad
Dych chi’n gwylio efelychiad,
yn adeiladu byd i anheddu eich creadigaethau,
ffugenwau gyda phawb, tagiau gyda phopeth.

Yn y dechreuad, byddwch chi’n caru eich creaduriaid
a byddwch chi’n bwrw brwmstan arnyn nhw
dim ond pan fyddan nhw’n anfad.
Neu arllwyswch wermod i mewn
i’w diodydd hamddenol
pan aiff eu diwylliant yn ddieflig,
eu hymddygiad yn ddirywiedig.
Oherwydd gwnân nhw hynny.
Gwnân nhw hynny bob tro.

Neu efallai, adeiladwch ddinas gaerog
ar fryn iddyn nhw,
a gweithredwch eich dyfarniadau yn llechwraidd –
hyfforddwch fand bach o sims
i orymdeithio’r ddinas,
yn chwythu trympedi, yn canu, yn gweiddi.
Wedyn gallwch chi ymlacio yn eich Parker Knoll,
yn gwylio brics yn crynu,
yn curo dwylo wrth i’r waliau gwympo.

Ond yn y pen draw,
bydd chwarae yn lle uwch yn flynedig i chi.
Rhediff y Lilipytiaid mewn panig
fel morgrug wrth i’r nythod gael eu dinistrio.
Bydd y holl peth yn ddiflas i chi.
Wedyn bydd chwiliad am fyd newydd i sefydlu,
a’r tro nesaf bwriadwch chi ei imiwneiddio
yn erbyn yr hen ddiffyg –
i grefu ffrwythau gwaharddedig –
yr afal sy’n edrych yn suddus ar y goeden
ond sy’n pydru yn hwyrach
fel manna ddoe.

Teithiwch o gwmpas nawr, cyn yr Armagedon nesaf.
Chwiliwch am gornel arall y bydysodau
i gychwyn arbrawf newydd.
Breuddwydiwch am Eden heb neidr,
wedyn rhowch hadau ffres i mewn,
moldiwch clai, anadlwch.

Sharon Larkin